Carfan Cymorth Maethu Cymru Rhondda Cynon Taf – Carfan Cymorth Prif Ffrwd
Uned 2, Parc Busnes Hen Lofa'r Maritime, Ystad Ddiwydiannol Hen Lofa'r Maritime, Pontypridd.
Ydych chi'n angerddol am gynorthwyo teuluoedd a helpu plant i ffynnu? Rydyn ni'n chwilio am Reolwr Materion Asesu Gofal gofalgar, trefnus a hunan-gymhellol i ymuno â'n Carfan Cymorth Prif Ffrwd ym Maethu Cymru Rhondda Cynon Taf.
Dyma swydd llawn amser sydd wedi'i chreu o'r newydd lle byddwch chi'n cyflawni swyddogaeth hanfodol wrth gynorthwyo rhieni maeth sy'n darparu cartrefi diogel a chariadus i blant a phobl ifainc ledled Rhondda Cynon Taf.
A chithau'n Rheolwr Materion Asesu Gofal, byddwch chi'n:
Byddech chi'n berffaith ar gyfer y swydd yma os ydych chi:
Dyma gyfle gwych i unigolyn creadigol, angerddol sy'n frwd dros gyflawni deilliannau cadarnhaol i blant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal. Byddwch chi'n gweithio gyda gwasanaeth maethu cefnogol, gan helpu i gryfhau a chynnal aelwydydd maethu prif ffrwd.
Rydyn ni ym Maethu Cymru Rhondda Cynon Taf yn falch iawn o'n gweithlu sefydlog ac ymroddgar - carfan sy'n gwerthfawrogi cydweithio ac wedi'i hymrwymo i ddarparu'r cymorth gorau i'n cymuned maethu.
Bydden ni wrth ein boddau yn clywed gennych chi os mai dyma'r swydd berffaith ar eich cyfer.
Am sgwrs anffurfiol neu am ragor o wybodaeth, e-bostiwch Tracey Arnold, Rheolwr Carfan – Arfer a Chyflawniad: Tracey.Arnold@rctcbc.gov.uk
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio’n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas â'r Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun cyfweliad gwarantedig ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, fe’ch gwahoddir i gyfweliad os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.