Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o gynnig swydd Gwaith Cymdeithasol yn rhan o’r Garfan Iechyd Meddwl y Gymuned Cwm Rhondda.
GweithiwrCymdeithasol
Gradd 11 – Gradd Gychwynnol ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol a chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru
Gradd 12 – Gradd Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol ~ o leiaf 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwysol a chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru
Math o gontract: Parhaol 37 awr yr wythnos
Gweithle: Carfan Iechyd Meddwl y Gymuned Cwm Rhondda, Prif Swyddfa Pentre, Stryd Llewelyn, Pentre, CF41 7BT
Rydyn ni am benodi Gweithiwr Cymdeithasol neu Weithiwr Cymdeithasol Profiadol i weithio'n rhan o Wasanaeth Iechyd Meddwl y Gymuned yng Nghwm Rhondda.
Dyma garfan amlddisgyblaethol sy'n gweithio gydag oedolion ag anghenion iechyd meddwl ac anghenion sy'n cyd-ddigwydd.
Rydyn ni'n cydnabod bod maes gwaith cymdeithasol yn un heriol, yn broffesiynol ac yn bersonol, a'i fod yn gofyn am sgiliau, ymrwymiad a brwdfrydedd sylweddol. Mae gyda ni ganolfan Addysg a Datblygu fewnol, bwrpasol sy'n rhoi cymorth ymarferol ar bob lefel i ymarferwyr gynnal eu sgiliau a'u Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
Ar hyd y blynyddoedd diwethaf, mae ein Hadrannau Gofal Cymdeithasol wedi elwa yn sgil buddsoddiad cynhwysfawr a sylweddol. Yn sgil hyn, rydyn ni wedi cryfhau'n gwasanaethau ataliol gyda'r nod o leihau'r pwysau ar wasanaethau rheng flaen.
O'ch penodi, byddwch chi'n elwa ar lwybr gyrfa gwell ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes Gwaith Cymdeithasol, a phecyn buddion, sy'n cynnwys gweithio hyblyg, pris gostyngol ar gyfer aelodaeth Hamdden am Oes a chyfle i fanteisio ar y cynlluniau prynu sef 'Beicio i'r Gwaith' a 'Let's Connect'.
O'ch penodi i'r swydd, bydd gofyn i chi weithio'n rhan o garfan a deall cryfderau a heriau gwaith aml-ddisgyblaethol. Rhaid bod gyda chi'r gallu i ddarparu gwasanaeth effeithiol ac effeithlon i'r cyhoedd. Bydd angen ymgymryd ag asesiadau o anghenion unigolion a'u cynhalwyr, cyd-baratoi a gweithredu Cynlluniau Gofal a Thriniaeth lle bo angen a bod yn Gydlynydd Gofal. Bydd angen gweithio yn unol â gofynion deddfwriaethol allweddol, megis Mesurau Iechyd Meddwl Cymru (2010), Deddf Iechyd Meddwl (1983) a'r Ddeddf Galluedd Meddyliol (2005). Hefyd, bydd angen dealltwriaeth o egwyddorion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Mae'r swydd yn heriol a bydd angen i chi ddangos dealltwriaeth ac ymroddiad o agwedd ar sail gwella tuag at ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol.
I'r sawl sy'n dechrau eu gyrfa ym maes Gwaith Cymdeithasol, byddwch chi'n cael cefnogaeth i ddilyn ein rhaglen gymorth i gyfoedion yn eich blwyddyn gyntaf fel ymarferydd. Nod y rhaglen yma yw lleihau'r bwlch rhwng ennill cymhwyster a rhoi hynny ar waith yn ymarferol.
Caiff goruchwyliaeth a chymorth proffesiynol eu rhoi'n rheolaidd. Bydd cyfle eang am ddatblygiad proffesiynol parhaus, e.e. dilyn cymwysterau/hyfforddiant CPEL ôl-raddedig i ddod yn Aseswr Lles Gorau ynghylch Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid (2007) ac o bosibl yn ennill cymhwyster Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy. Caiff cyflog ehangach ei gynnig i ymgeiswyr sydd â'r cymhwyster Gweithwyr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy ac sy'n cyflawni'r rôl honno yn rhan o'r swydd. Mae'n hanfodol eich bod chi'n meddu ar gymhwyster proffesiynol cydnabyddedig, e.e. gradd mewn gwaith cymdeithasol, diploma mewn gwaith cymdeithasol neu CQSW. Rhaid i chi fod wedi'ch cofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru.
Os byddwch chi'n cyrraedd y rhestr fer ar gyfer cyfweliad, bydd raid ichi gadarnhau a ydych chi'n gwneud cais am swydd Gweithiwr Cymdeithasol (GR11) neu Weithiwr Cymdeithasol Profiadol (GR12) cyn y cyfweliad. Bydd disgwyl i'r rheiny sy'n ymgeisio am swydd Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol fod yn barod i ddarparu tystiolaeth o'u cofrestriad â Gofal Cymdeithasol Cymru a 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwyso yn eu cyfweliad.
Am drafodaeth mewn perthynas â'r swydd yma, ffoniwch Helen Parker (Rheolwr Arfer a Chyflawniad y Garfan) ar (01443) 424350.
Buddion gweithio i Gyngor Rhondda Cynon Taf:
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd i bob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas â'r Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun cyfweliad gwarantedig ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, fe'ch gwahoddir i gyfweliad os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i'r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o'r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn sy'n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.