Mae Rhondda Cynon Taf yn awyddus i benodi Swyddog Sicrhau Ansawdd i gefnogi darparwyr Gofal Plant Dechrau'n Deg a gomisiynwyd i ymgorffori canllawiau gofal plant Dechrau'n Deg Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod darpariaeth o ansawdd uchel yn cael ei chynnig ledled y Fwrdeistref Sirol.
Dyma gyfle gwych i unigolyn medrus a brwdfrydig ymuno â charfan flaengar a deinamig. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am gyflwyno Fframwaith Sicrwydd Ansawdd Gofal Plant y Gwasanaeth, gan sicrhau bod y ddarpariaeth gofal plant Dechrau'n Deg sy'n cael ei darparu gan ddarparwyr allanol cymeradwy yn bodloni safonau uchel ar draws pob maes yn gyson. Yn rhan o'r swydd yma, bydd gofyn i chi ddarparu cymorth i leoliadau Dechrau'n Deg a darparu arweiniad arbenigol i Garfan Comisiynu y Gwasanaethau i Blant a Chymunedau er mwyn gwerthuso ansawdd y ddarpariaeth, gan helpu i lywio penderfyniadau ynghylch comisiynu. Yn ogystal, bydd disgwyl i ddeiliad y swydd ddylunio a chyflwyno pecynnau hyfforddi sy'n cefnogi datblygiad proffesiynol parhaus y gweithlu Gofal Plant Dechrau'n Deg.
I ddysgu rhagor am y swydd, e-bostiwch Joanne Jervis, Uwch Swyddog Sicrhau Ansawdd: joanne.jervis@rctcbc.gov.uk
Caiff y swydd yma'i hariannu tan 31 Mawrth 2028.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio’n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad ydy unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses recriwtio a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddynt hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas â'r Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun cyfweliad gwarantedig ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, bydd gwahoddiad i gyfweliad i chi os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro hwn. Diolch am eich diddordeb, ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn, sy’n cwrdd â’r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.