Gweithiwr Cymdeithasol / Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol
Gwasanaethau i Blant
Gradd 11 – Gradd Gychwynnol ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol a chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru
Gradd 12 – Gradd Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol ~ o leiaf 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwysol a chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru
Mae'n dda gan Gyngor Rhondda Cynon Taf gynnig swyddi Gwaith Cymdeithasol yn rhan o'i Wasanaeth 16+. Dyma swydd barhaol, llawn amser, 37 awr yr wythnos.
Mae gyda phob un o'n hymarferwyr y cyfle i ddylanwadu ar ein gwaith wrth iddo ddatblygu. Maen nhw'n cael cymorth carfan rheoli gadarn a phrofiadol ar lefelau strategol a gweithredol. Rydyn ni'n cydnabod bod maes gwaith cymdeithasol yn un heriol, yn broffesiynol ac yn bersonol, a'i fod yn gofyn am sgiliau, ymrwymiad a brwdfrydedd sylweddol. Mae gyda ni ganolfan Addysg a Datblygu fewnol, bwrpasol sy'n rhoi cymorth ymarferol ar bob lefel i ymarferwyr gynnal eu sgiliau a'u Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
Ar hyd y blynyddoedd diwethaf, mae ein Hadrannau Gofal Cymdeithasol wedi elwa yn sgil buddsoddiad cynhwysfawr a sylweddol. Yn sgil hyn, rydyn ni wedi cryfhau'n gwasanaethau ataliol gan anelu at leihau'r pwysau ar y rheng flaen.
O'ch penodi, byddwch chi'n elwa ar lwybr gyrfa gwell ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes Gwaith Cymdeithasol, a phecyn buddion, sy'n cynnwys gweithio hyblyg, pris gostyngol ar gyfer aelodaeth Hamdden am Oes a chyfle i fanteisio ar y cynlluniau prynu sef 'Beicio i'r Gwaith' a 'Let's Connect'.
I'r sawl sy'n dechrau eu gyrfa ym maes Gwaith Cymdeithasol, byddwch chi'n cael cefnogaeth i ddilyn ein rhaglen gymorth i gyfoedion yn eich blwyddyn gyntaf fel ymarferydd. Nod y rhaglen yma yw lleihau'r bwlch rhwng ennill cymhwyster a rhoi hynny ar waith yn ymarferol.
Rydyn ni'n disgwyl i'n swyddogion feddu ar ddealltwriaeth gadarn o oblygiadau gweithredol Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a deddfwriaeth berthnasol arall. Rhaid ichi fod yn effro i'r wybodaeth ddiweddaraf am faterion newydd a rhaid ichi fod wedi gweithio yn y maes perthnasol, neu feddu ar ddiddordeb mewn gwneud hynny. Byddwch chi wedi'ch ymroi i ymarfer nad yw'n ormesol, a bydd gyda chi sgiliau asesu, cyfathrebu a chynllunio cadarn.
O'ch penodi i'r swydd, byddwn ni'n disgwyl i chi reoli llwyth achosion penodol wrth feithrin a chynnal cysylltiadau ag asiantaethau partner. Rhaid i chi feddu ar gymhwyster Gwaith Cymdeithasol proffesiynol cydnabyddedig. O'ch penodi i'r swydd, bydd disgwyl i chi gofrestru'n Weithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Os byddwch chi'n cyrraedd y rhestr fer ar gyfer cyfweliad, bydd raid ichi gadarnhau a ydych chi'n gwneud cais am swydd Gweithiwr Cymdeithasol (GR11) neu Weithiwr Cymdeithasol Profiadol (GR12) cyn y cyfweliad. Bydd disgwyl i'r rheiny sy'n ymgeisio am swydd Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol fod yn barod i ddarparu tystiolaeth o'u cofrestriad â Gofal Cymdeithasol Cymru a 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwysol yn eu cyfweliad.
Mae'r Garfan 16+ yn darparu gwasanaeth i bobl ifainc rhwng 15 mlwydd a 9 mis oed a 25 mlwydd oed gan weithio yn unol â gofynion Deddf Plant 1989, Deddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014. Byddwch chi'n gweithio gyda phobl ifainc sy’n ddigartref, sydd angen gofal a chymorth a’r rhai sy’n pontio o’r system ofal.
A chithau’n Weithiwr Cymdeithasol o fewn y gwasanaeth yma, byddwch chi'n gweithio ar y cyd ag aelodau eraill y garfan gan gynnwys Uwch Ymarferwyr, Ymgynghorwyr Personol a Gweithwyr Cymorth. Byddwch chi'n cydweithio'n agos â phartneriaid amlasiantaeth sydd hefyd yn darparu gwasanaethau ar gyfer pobl ifainc yn Rhondda Cynon Taf.
Mae'r swydd yma'n cael ei hysbysebu'n fewnol a bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ar y cyd â phobl ifainc yn y system ofal. Bydd y gwaith yn mynd i'r afael ag ystod o faterion y mae pobl ifainc yn eu hwynebu yn ystod eu cyfnod mewn gofal; wrth adael gofal; symud i fyw'n annibynnol; rheoli tenantiaeth; mynd i'r Brifysgol ac ati. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwaith uniongyrchol a gwaith grŵp gyda phobl ifainc yn ein canolfan yn Stryd Morgan, Pontypridd yn ogystal â gweithio hybrid/gweithio gartref.
Am sgwrs anffurfiol, ffoniwch Kathryn Morgan, Rheolwr y Garfan, Gwasanaeth 16+ y Gorllewin, ar (01443) 425006.
Buddion gweithio i Gyngor Rhondda Cynon Taf:
Sylwer, er bod dyddiad cau wedi'i nodi, hysbyseb barhaus yw hon a bydd ymgeiswyr addas yn cael eu gwahodd i gyfweliad yn rheolaidd.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd i bob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas â'r Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun cyfweliad gwarantedig ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych yn bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'i nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, fe'ch gwahoddir i gyfweliad os byddwch chi’n dewis cymryd rhan yn y cynllun.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.