Gwasanaeth Allgymorth Tai Arbenigol- Iechyd Meddwl a Chamddefnyddio Sylweddau
Swyddfa: Tŷ Sardis, Pontypridd
Gweithiwr Cymdeithasol Gradd 11 £41,511
Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol Gradd 12 £44,711
Mae’r Gwasanaeth Allgymorth Tai Iechyd Meddwl a Chamddefnyddio Sylweddau Arbenigol yn wasanaeth cydweithredol o asiantaethau (gan gynnwys Iechyd, Awdurdodau Lleol, a’r Trydydd Sector). Mae'n darparu ymyriadau iechyd, triniaeth a chymorth yn uniongyrchol i bobl sengl ddigartref sydd mewn darpariaeth llety dros dro ar draws Cwm Taf Morgannwg ac i unigolion sy'n cael eu lletya yn y gymuned yn rhan o ddarpariaeth Tai yn Gyntaf sydd mewn perygl o fod yn ddigartref. Mae hwn yn wasanaeth newydd ac arloesol a ddechreuodd yn 2021.
I adeiladu ar y llwyddiannau a gyflawnwyd eisoes, ac i gwrdd â’r cynnydd yn y galw, rydyn ni'n chwilio am Weithiwr Cymdeithasol / Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol a fydd yn rhan annatod o’r garfan, gan gynnig profiad gofal yn y gymuned y mae mawr ei angen. Byddwch chi'n weithiwr proffesiynol brwdfrydig gydag angerdd am weithio mewn partneriaeth. Bydd gyda chi gefndir cryf a phrofiad o weithio gydag unigolion agored i niwed sydd â materion amlochrog. Byddwch chi'n gweithio’n uniongyrchol ag unigolion sydd wedi’u nodi fel rhai sydd â phroblemau gofal cymdeithasol sy’n effeithio ar eu gallu i gael mynediad at a/neu gynnal tenantiaeth.
Dyma gyfle cyffrous i gymryd rhan mewn maes gwaith newydd. Byddwch chi'n cynnal trefniadau cydweithio effeithiol gyda phartneriaethau presennol ym mhob rhan o'r rhanbarth, yn nodi cyfleoedd ar gyfer datblygu'r swydd yn unol ag anghenion y boblogaeth, ac yn codi ymwybyddiaeth o'r gwasanaeth a datblygu ffyrdd i bobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau ni gyfrannu er mwyn llywio darpariaeth a datblygiadau i wasanaethau.
Rhaid i chi allu gweithio yn rhan o dîm a bod yn hyblyg i ofynion a blaenoriaethau sy'n newid. Rhaid i chi allu gweithio o'ch pen a'ch pastwn eich hun a gweithio'n dda yn rhan o garfan. A chithau'n gallu cyfathrebu'n dda ag eraill, byddwch chi'n ddiplomataidd mewn sefyllfaoedd sydd weithiau'n anodd ac yn sensitif, gan gyrraedd targedau heriol.
Yr oriau gwaith yw 37 awr yr wythnos, ac mae'r garfan yn gweithio yn Nhŷ Sardis, Pontypridd, CF37 1DU. Bydd deiliad y swydd yn gweithio ledled Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful. Bydd cyfle i weithio gartref, a gweithio o leoliadau ledled Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.
Mae’r swydd yma'n cael ei hariannu gan gyllid grant tan fis Mawrth 2026. Bydd angen sicrhau cyllid pellach gan Lywodraeth Cymru er mwyn parhau i ariannu’r swydd yma y tu hwnt i’r dyddiad yma. Fodd bynnag, mae'r swydd yn cael ei hysbysebu gan Gyngor Rhondda Cynon Taf fel swydd barhaus.
I gael sgwrs yn anffurfiol cysylltwch â Claire Day: 07769164695: claire.day@rctcbc.gov.uk
Bydd raid meddu ar gymhwyster perthnasol ym maes Gwaith Cymdeithasol ac mae disgwyl eich bod chi wedi'ch cofrestru'n Weithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru adeg eich penodi.
Mae gyda phob un o'n hymarferwyr gyfle i ddylanwadu ar ein gwaith wrth iddyn nhw ddatblygu. Maen nhw'n cael cymorth gan garfan uwch reoli gadarn a phrofiadol ar lefelau strategol a gweithredol.
Rydyn ni’n cydnabod bod maes gwaith cymdeithasol yn un heriol yn broffesiynol ac yn bersonol a'i fod yn gofyn am sgiliau, ymrwymiad a brwdfrydedd sylweddol. Mae gyda ni ganolfan Addysg a Datblygu fewnol, bwrpasol sy'n rhoi cymorth ymarferol ar bob lefel i ymarferwyr gynnal eu sgiliau a'u Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
Ar hyd y blynyddoedd diwethaf, mae ein Hadrannau Gofal Cymdeithasol wedi elwa yn sgil buddsoddiad cynhwysfawr a sylweddol. Yn sgil hyn, rydyn ni wedi cryfhau'n gwasanaethau ataliol gyda'r nod o leihau'r pwysau ar wasanaethau rheng flaen.
O'ch penodi, byddwch chi'n elwa ar lwybr gyrfa gwell ar gyfer gweithwyr proffesiynol yn y maes Gwaith Cymdeithasol, pecyn buddion sy'n cynnwys gweithio hyblyg, pris gostyngol ar gyfer aelodaeth Hamdden am Oes a chyfle i fanteisio ar y cynlluniau prynu sef 'Beicio i'r Gwaith' a 'Let's Connect'.
Rydyn ni'n disgwyl i'n hymarferwyr feddu ar ddealltwriaeth gadarn o oblygiadau gweithredol y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a deddfwriaeth berthnasol arall. Rhaid ichi fod yn effro i'r wybodaeth ddiweddaraf am faterion newydd a rhaid ichi fod wedi gweithio yn y maes perthnasol, neu fod â diddordeb mewn gwneud hynny. Ac yntau wedi ymrói i ymarfer nad yw'n ormesol, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau asesu, cyfathrebu a chynllunio cadarn.
Buddion gweithio i Gyngor Rhondda Cynon Taf:
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas â'r Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun cyfweliad gwarantedig ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, bydd gwahoddiad i gyfweliad i chi os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn, sy’n cwrdd â’r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.