35 awr yr wythnos
Cartref Henoed Parc Newydd, Parc Glas, Tonysguboriau, CF72 8RB
Ydych chi'n unigolyn gofalgar sy'n dymuno helpu pobl ac sy'n chwilio am swydd mewn amgylchedd cegin? Os felly, ymunwch â ni, rydyn ni'n chwilio am unigolion i ymuno â'n carfan ymroddedig yng Nghartref Henoed Parc Newydd, sydd wedi'i leoli ger y parc manwerthu yn Nhonysguboriau, o fewn pellter cerdded at yr orsaf fysiau lleol.
Amdanom ni...
Rydyn ni'n darparu gofal o ansawdd uchel ar gyfer hyd at 32 o unigolion sydd â diagnosis o ddementia a gofal preswyl cyffredinol. Rydyn ni'n cynorthwyo preswylwyr i gynnal sgiliau ac yn annog annibyniaeth ac yn hyrwyddo urddas a phreifatrwydd bob tro. Rydyn ni'n parchu dewisiadau pobl ac yn annog unigolion i gymryd rhan mewn gweithgareddau a theithiau cymdeithasol.
Rydyn ni'n wasanaeth wedi'i reoleiddio felly rydyn ni'n canolbwyntio ar annog anghenion gofal unigol a sicrhau bod cynlluniau wedi'u seilio ar ddeilliannau.
Y rôl...
Rydyn ni'n awyddus i glywed gan bobl sy'n ddibynadwy, sy'n meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol ac sy'n gweithio'n dda gydag eraill i weithio'n rhan o'n gweithlu gofal cymdeithasol. Bydd dyletswyddau yn cynnwys gweithio yn rhan o garfan y gegin, gan goginio yn absenoldeb y prif gogydd, paratoi bwyd yn unol ag anghenion deietegol unigolion, yn unol â'u cynllun gofal. Byddwch chi'n archebu stoc, cylchdroi stoc, cyflawni dyletswyddau cegin cyffredinol, cwblhau rotâu tasgau ac yn cwblhau Llawlyfr Bwyd Mwy Diogel Busnes Gwell.
Dyma swydd 7 awr y diwrnod dros wythnos 5 diwrnod o hyd, sy'n cynnwys penwythnosau a gwyliau'r banc, bydd taliadau ychwanegol yn cael eu dyranu ar gyfer y rhain. Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn hyblyg ac efallai bydd gofyn iddyn nhw weithio oriau amgen er mwyn cynorthwyo anghenion ein cartref.
Bydd gan ymgeiswyr y swyddi yma agwedd gadarnhaol a dealltwriaeth o anghenion pobl hŷn. Byddai profiad o weithio mewn amgylchedd cegin ac o weithio neu dreulio amser gyda phobl hŷn neu bobl ag anableddau o fantais. Byddwch chi'n derbyn cymorth i gwblhau Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan (AWIF) – rhaglen yw hon gyda’r nod o’ch paratoi chi ar gyfer eich swydd newydd, hyfforddiant penodol ar gyfer y swydd a bydd gofyn i chi gwblhau tystysgrif diogelwch bwyd.
Buddion...
Oes diddordeb gyda chi?
Am sgwrs anffurfiol neu i gael gwybod rhagor am y swydd cyn i chi gyflwyno cais, cysylltwch â'n cartref a'n carfan reoli a fydd yn hapus i siarad gyda chi:
Annette Hopkins (Rheolwr Cofrestredig) – (01443) 237848
Rydyn ni'n rhan o gynllun cyfweliad gwarantedig Gofalwn Cymru. Ffoniwch ni neu anfon copi o dystysgrifau mewn e-bost (Diogelu a Chyflwyniad i ofal cymdeithasol). Byddwn ni'n cysylltu â chi pan fyddwn ni wedi derbyn eich gwybodaeth.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio’n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas â'r Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun cyfweliad gwarantedig ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, fe’ch gwahoddir i gyfweliad os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor. Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau gan bob adran o'r gymuned.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.