Cartref Cymunedol Bryndar, Cwmdâr, Aberdâr.
2 x Swyddi
Ydych chi'n awyddus i gael effaith gadarnhaol ar fywydau plant a phobl ifainc?
Ydych chi'n unigolyn gweithgar a gwydn sydd â'r gallu i arwain carfan sy'n ymgysylltu â phlant a phobl ifainc a'u cefnogi nhw'n emosiynol?
Rydyn ni'n awyddus i benodi Uwch Ymarferydd Gofal Plant Preswyl profiadol, hyderus a deinamig, sy'n frwdfrydig am godi dyheadau a gweithio mewn modd sy'n ystyrlon o drawma. Bydd gyda chi o leiaf tair blynedd o brofiad mewn lleoliad gofal plant preswyl. Byddwch chi'n rhan o garfan ofalgar sy'n darparu cartref diogel a chefnogol i blant a phobl ifainc. Mae gwaith y cartrefi'n cael ei arwain gan Reolwr Cofrestredig profiadol.
Byddwch chi'n ymroi i wella bywydau plant sydd ag anghenion cymhleth a rhai sydd wedi profi trawma yn ystod eu plentyndod. Gan arwain y garfan wrth ddarparu gofal a chymorth, bydd angen i chi fod yn drefnus ac yn hyblyg i'r hyn a allai fod yn amgylchedd sy'n newid yn gyflym. Bydd gofyn i chi weithio mewn modd creadigol, gan ymgymryd â gweithgareddau a gwaith uniongyrchol, tra hefyd yn goruchwylio staff y garfan a chynnig cymorth. Byddwch chi'n cael eich cefnogi ac yn derbyn hyfforddiant i weithio mewn amgylchedd therapiwtig gan fanteisio ar y Model Adfer Trawma.
Bydd llawer o'ch gwaith chi'n cynnwys helpu'r garfan i weithio â phlant a phobl ifainc mewn modd effeithiol, gan weithio tuag at wella a meithrin cydnerthedd fel bod modd cyflawni eu nodau personol.
Bydd y gwaith yma'n cynnwys darparu cefnogaeth emosiynol a chorfforol sy'n caniatâu i bobl ifainc gyflawni eu potensial llawn, weithiau, mewn sefyllfaoedd heriol. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda theuluoedd a phobl broffesiynol i sicrhau bod y gofal a'r cymorth wedi'u haddasu i weddu anghenion unigol y plant a phobl ifainc.
Bydd gan ddeiliad y swydd rôl allweddol yn y cartref i sicrhau bod holl ofynion RISCA yn cael eu bodloni, a bod cofrestriad yn cael ei gynnal.
I lwyddo yn y rôl yma rhaid i chi fod yn unigolyn angerddol ac amyneddgar, a rhaid i chi ymrwymo i'r bobl rydych chi'n gweithio gyda nhw ac i safonau proffesiynol y swydd.
Fel aelod amser llawn o'r garfan reoli, bydd angen i chi fod yn barod i weithio ystod lawn o sifftiau, gan gynnwys penwythnosau, nosweithiau a chyflawni dyletswyddau cysgu i mewn. Er bod y ganolfan ar gyfer y swydd yma yng Nghwmdâr, o bryd i'w gilydd fe fyddwch chi'n gweithio i gefnogi ein cartrefi eraill yn yr awdurdod lleol, er mwyn diwallu anghenion y gwasanaeth.
Bydd disgwyl i ymgeiswyr arddangos:
Bydd disgwyl i chi feddu ar Ddiploma FfCCh Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifainc) neu gymhwyster NVQ Lefel 3 (Plant a Phobl Ifainc). Byddwch wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, a bydd gyda chi o leiaf tair blynedd o brofiad cyfredol ym maes gofal plant preswyl.
Ein Cynnig i Chi
Rydyn ni’n cydnabod bod maes Gofal Cymdeithasol yn un heriol yn broffesiynol ac yn bersonol a'i fod yn gofyn am sgiliau, ymrwymiad a brwdfrydedd sylweddol. Mae gyda ni ganolfan Addysg a Datblygu mewnol, bwrpasol sy'n rhoi cymorth ymarferol er mwyn i'n staff gynnal eu sgiliau a'u Datblygiad Proffesiynol Parhaus. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn hyfforddiant llawn a'r gefnogaeth sydd ei hangen i gyflawni'r rôl. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus sydd ddim yn meddu ar gymhwyster perthnasol yn derbyn cefnogaeth i gyflawni Diploma FfCCh Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifainc) o fewn 2 flynedd o'u penodi.
Bydd modd i weithwyr Cyngor Rhondda Cynon Taf hefyd fanteisio ar ystod eang o fuddion staff sy'n cynnwys:
Dyma rai o’r buddion sydd gyda ni i’w cynnig. Edrychwch ar ein tudalennau gwe pwrpasol ar gyfer Gwasanaethau i Blant am ragor o wybodaeth ynghylch pam y dylech chi ddewis gyrfa yn Rhondda Cynon Taf. www.rctcbc.gov.uk/SwyddiGwasanaethauiBlant
I gael rhagor o fanylion, ffoniwch Lisa Sansom – Rheolwr Cofrestredig ar (01685) 874365.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadaeth rywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o’i amcanion tymor hir mewn perthynas â’r Gymraeg a’i Strategaeth Cynllunio’r Gweithlu, mae’r Cyngor yn ymrwymo i gynllun sicrhau cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd sgiliau Cymraeg Lefel 3 neu’n uwch na hynny. Os byddwch chi’n bodloni’r meini prawf hanfodol fel sydd wedi’u nodi yn y fanyleb person a bod eich sgiliau Cymraeg gyfwerth â Lefel 3 neu’n uwch, byddwch chi’n cael gwahoddiad i gyfweliad os ydych chi’n dymuno bod yn y cynllun.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro hwn. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.