Carfan Cenogi Plant sy'n Derbyn Gofal
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o gynnig swydd Blaen Weithiwr Cymdeithasol a fydd yn gweithio yn rhan o'n Carfan Plant sy'n Derbyn Gofal sydd newydd ei hailgyflunio.
Ymunwch â ni wrth i ni ddechrau ar gyfnod cyffrous o drawsnewid gwasanaeth.
Am y Swydd
Bydd y swydd yma, nad yw'n ymwneud â dal achosion, yn darparu cymorth ac arweiniad ymarferol ac emosiynol i bobl ifanc, rhieni a chynhalwyr (gofalwyr). Bydd hyn yn cynnwys ymyriadau wedi'u cynllunio, ac ymatebion amserol i'r rhai sydd mewn argyfwng. Bydd y blaen weithiwr cymdeithasol, sy'n gweithio yn y garfan, yn uniongyrchol gyfrifol i'r gweithiwr cymdeithasol ymgynghorol a bydd disgwyl ymgymryd ag ymyriadau a ystyrir yn fwy cymhleth, yn ogystal â rhoi cyngor a goruchwyliaeth i aelodau o'r tîm.
Rôl y blaen weithiwr cymdeithasol fydd cefnogi plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal, gan ddarparu ymyriadau wedi'u teilwra i helpu i gefnogi newid, a chynnal perthnasoedd iach. Byddan nhw hefyd yn gweithio gyda phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal a'r rheiny sy'n rhoi'r gofal iddyn nhw, gan gefnogi sefydlogrwydd lleoliadau ac atal trefniadau lleoli rhag chwalu. Bydd y rôl yn cynnwys gweithio'n uniongyrchol gyda theuluoedd geni a phlant sydd wedi bod mewn gofal, er mwyn trosglwyddo pobl ifanc yn ddiogel o ofal i'r cartref. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn ymgymryd â rôl fentora lle bo angen, gydag ymarferwyr o fewn y garfan, yn ogystal ag ymrwymiad i'w datblygiad proffesiynol ei hun.
Manteision:
Wrth weithio i Wasanaethau i Blant Rhondda Cynon Taf, bydd gyda chi fynediad at ystod eang o fuddion staff, yn ogystal ag ystod eang o gyfleoedd i ddysgu a datblygu. Rydyn ni'n blaenoriaethu lles ein hymarferwyr, gan ddarparu cymorth, llwythi gwaith hylaw, ac adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw er mwyn ffynnu.
Ar hyn o bryd, rydyn ni'n cyflwyno Model Ymarfer newydd ledled y gwasanaeth, sy'n canolbwyntio ar berthnasoedd, yn gydweithredol ac yn Ystyriol o Drawma. Mae hyn yn golygu y byddwch chi'n cael mynediad at becyn hyfforddi cynhwysfawr sy'n seiliedig ar dystiolaeth, sy'n cynnwys hyfforddiant Cyfathrebu Cydweithredol - gan gefnogi staff i weithio mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar ddeilliannau, gan annog sgyrsiau myfyriol a grymusol gyda phobl ifainc a'u teuluoedd. Yn ogystal â rhaglen hyfforddi bwrpasol sy'n ystyriol o drawma.
Mae buddion eraill yn cynnwys:
Dyma rai o’r buddion sydd gyda ni i’w cynnig. Edrychwch ar ein tudalennau gwe pwrpasol ar gyfer Gwasanaethau i Blant am ragor o wybodaeth ynghylch pam y dylech chi ddewis gyrfa ym maes Gwaith Cymdeithasol yn Rhondda Cynon Taf.
www.rctcbc.gov.uk/swyddigwasanaethauiblant
I gael rhagor o wybodaeth am y swydd yma neu i drefnu sgwrs anffurfiol gyda'r Rheolwr, cysylltwch â:
Nicola Bowditch, Rheolwr y Gwasanaeth
E-bost- Nicola.Bowditch@rctcbc.gov.uk
Gwybodaeth ychwanegol
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio’n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg. Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas â'r Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun cyfweliad gwarantedig ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi ym y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, fe'ch gwahoddir i gyfweliad os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn, sy’n cwrdd â’r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.