TŶ WILLOWFORD, LÔN RHYD-YR-HELYG, GWAELOD Y GARTH, CF15 9HJ
Ydych chi'n awyddus i gael effaith gadarnhaol ar fywydau plant a phobl ifainc?
Ydych chi'n unigolyn gweithgar a chydnerth sydd â'r gallu i ymgysylltu â phlant a phobl ifainc a'u cefnogi nhw'n emosiynol?
A chithau'n Ymarferydd Gofal Plant - Preswyl, byddwch chi'n rhan o garfan ofalgar sy'n darparu cartref diogel a chefnogol i hyd at bump o blant a phobl ifainc. Mae gwaith y cartrefi'n cael ei arwain gan Reolwr Cofrestredig ac uwch aelodau profiadol o staff.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymroi i wella bywydau plant sydd ag anghenion cymhleth a rhai sydd wedi profi trawma yn ystod eu plentyndod.
Bydd disgwyl i chi fod yn greadigol ac ymgysylltu'n weithredol wrth weithio'n uniongyrchol gyda hyd at bump o blant a phobl ifainc a darparu cymorth a chefnogaeth iddyn nhw.
Byddwch chi'n cael eich cefnogi ac yn derbyn hyfforddiant i weithio mewn amgylchedd therapiwtig gan fanteisio ar y Model Adfer Trawma. Bydd llawer o'ch gwaith chi'n cynnwys cefnogi unigolion i weithio trwy eu profiadau unigol gan weithio tuag at wella a meithrin cydnerthedd i gyflawni nodau personol. Bydd y gwaith yma'n cynnwys darparu cefnogaeth emosiynol a chorfforol sy'n caniatáu i blant a phobl ifainc gyflawni eu potensial llawn, weithiau, mewn sefyllfaoedd heriol. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda theuluoedd a phobl broffesiynol i sicrhau bod y gofal a'r cymorth wedi'u haddasu i weddu i anghenion unigol y plant a phobl ifainc.
Er mwyn llwyddo yn y rôl yma, rhaid i chi fod yn unigolyn angerddol ac amyneddgar, a rhaid i chi ymrwymo i'r bobl rydych chi'n gweithio gyda nhw ac i safonau proffesiynol y swydd.
Bydd disgwyl i ymgeiswyr arddangos:
Mae Willowford House yn rhan o Wasanaeth Preswyl ehangach i Blant ac mae ymrwymiad i gefnogi'r gwasanaeth ehangach yn hanfodol. Mae'n ofynnol i staff gyflenwi a chynorthwyo mewn lleoliadau eraill yn ôl yr angen i ddiwallu anghenion y gwasanaeth ac anghenion y plant a'r bobl ifainc sy'n cael eu cefnogi.
Bydd disgwyl i chi feddu ar, neu fod yn barod i weithio tuag at, Ddiploma FfCCh Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifainc) neu gymhwyster NVQ Lefel 3 (Plant a Phobl Ifainc). Byddwch chi'n cofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru naill ai o'ch penodiad neu yn dilyn cyflawni'r Fframwaith Sefydlu Gofal Cymdeithasol yn llwyddiannus.
Edrychwch ar ein tudalennau gwe pwrpasol ar gyfer Gwasanaethau i Blant am ragor o wybodaeth ynghylch pam y dylech chi ddewis gyrfa ym maes Gwasanaethau Preswyl.
Gwasanaethau Preswyl i Blant | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (rctcbc.gov.uk)
Am ragor o wybodaeth am y swydd neu am sgwrs anffurfiol, ffoniwch Charlotte Ajax, Rheolwr Cofrestredig ar 07385401811.
Ein Cynnig i Chi
Rydyn ni'n cydnabod bod maes Gofal Cymdeithasol yn un heriol yn broffesiynol ac yn bersonol a'i fod yn gofyn am sgiliau, ymrwymiad a brwdfrydedd sylweddol. Mae gyda ni ganolfan Addysg a Datblygu fewnol, bwrpasol sy'n rhoi cymorth ymarferol er mwyn i'n staff gynnal eu sgiliau a'u Datblygiad Proffesiynol Parhaus. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn hyfforddiant llawn a'r gefnogaeth sydd ei hangen i gyflawni'r rôl. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus sydd ddim yn meddu ar gymhwyster perthnasol yn derbyn cefnogaeth i gyflawni Diploma FfCCh Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifainc) o fewn 2 flynedd o'u penodi.
Bydd modd i weithwyr Cyngor Rhondda Cynon Taf hefyd fanteisio ar ystod eang o fuddion staff sy'n cynnwys:
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio’n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad ydy unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses recriwtio a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddynt hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o’i amcanion tymor hir mewn perthynas â’r Gymraeg a’i Strategaeth Cynllunio’r Gweithlu, mae’r Cyngor yn ymrwymo i gynllun sicrhau cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd sgiliau Cymraeg Lefel 3 neu’n uwch na hynny. Os byddwch chi’n bodloni’r meini prawf hanfodol fel sydd wedi’u nodi yn y fanyleb person a bod eich sgiliau Cymraeg gyfwerth â Lefel 3 neu’n uwch, byddwch chi’n cael gwahoddiad i gyfweliad os ydych chi’n dymuno bod yn y cynllun.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro hwn. Diolch am eich diddordeb, ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn, sy’n cwrdd â’r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.