Swydd Wag - Rheolwr Materion Asesu Gofal yn y Garfan Lleoli
Lleoliad: Tŷ Catrin, Pontypridd
Ydych chi'n angerddol am gynorthwyo teuluoedd a helpu plant a phobl ifainc i ffynnu? Rydyn ni'n chwilio am Reolwr Materion Asesu Gofal caredig, trefnus a rhagweithiol i ymuno â'n Carfan Lleoliadau yn rhan o Wasanaeth Maethu Cymru RhCT.
Dyma rôl llawn amser lle byddwch chi'n cyflawni rôl hollbwysig o ran cefnogi’r Gwasanaethau i Blant, gan helpu i sicrhau lleoliadau diogel a meithringar ar gyfer plant a phobl ifainc ledled Rhondda Cynon Taf.
Yn y rôl amrywiol gwobrwyol, byddwch chi'n:
Mae'n bosibl y byddwch chi'n wych yn y rôl yma os ydych chi'n:
Dyma gyfle gwych i unigolyn creadigol, angerddol sy'n frwd dros gyflawni'r deilliannau cadarnhaol gorau i blant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal. Byddwch chi'n rhan o wasanaeth maethu cefnogol a phrofiadol, sy'n helpu i sicrhau lleoliadau maethu a preswyl diogel i'r rheiny sydd eu hangen mwyaf.
Rydyn ni ym Maethu Cymru Rhondda Cynon Taf yn falch iawn o'n gweithlu sefydlog ac ymroddgar - carfan sy'n cefnogi'i gilydd, ac wedi'i hymrwymo i ddarparu gofal o'r safon uchaf gorau a chymorth i'n cymuned maethu.
Bydden ni wrth ein boddau yn clywed gennych chi os mai dyma'r swydd berffaith ar eich cyfer.
Pe hoffech chi sgwrs anffurfiol neu ragor o wybodaeth ynglŷn â'r swydd, cysylltwch â: Rhiannon.Shepherd@rctcbc.gov.uk neu Gemma.L.Higgon-Young@rctcbc.gov.uk
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas â'r Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun cyfweliad gwarantedig ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, fe'ch gwahoddir i gyfweliad os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn, sy’n cwrdd â’r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.