Rheolwr Carfan - Arfer a Chyflawniad (Carfan Cymorth Prif Ffrwd)
Uned 1, Ystad Ddiwydiannol Hen Lofa'r Maritime, Pontypridd, CF37 1NY
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gyffrous i allu cynnig cyfle i unigolyn ymuno â Charfan Cymorth Prif Ffrwd Maethu Cymru newydd RhCT i gyflawni rôl Rheolwr Carfan - Arfer a Chyflawniad. Mae'r cyfle wedi codi yn dilyn y broses ailstrwythuro ddiweddar y mae disgwyl iddi ddod i ben erbyn mis Ionawr 2025.
Dyma swydd gyffrous ar gyfer unigolyn creadigol, angerddol ac ymroddgar i sicrhau deilliannau cadarnhaol ar gyfer plant a phobl ifainc sy'n derbyn gofal. Rydyn ni’n trawsnewid ein gwasanaeth i sicrhau bod modd i ni gwrdd ag anghenion ein cymuned maethu ac mae'r Garfan Cymorth Prif Ffrwd wedi'i sefydlu o'r newydd yn benodol er mwyn cefnogi Rhieni Maeth a'u hanghenion cysylltiedig.
Rydyn ni'n chwilio am unigolion angerddol gyda sgiliau rhyngbersonol gwych, creadigrwydd, a'r gallu i feddwl mewn modd creadigol. Os ydych chi'n barod i ymgymryd â rôl sy’n cynnwys arwain a helpu i lunio ein gwasanaeth trawsnewidiol, dewch i ymuno â'n carfan ni. Rydyn ni'n gwerthfawrogi unigolion hawdd mynd atyn nhw a meddylfryd blaengar. Ymunwch â ni i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau plant a phobl ifainc, a chwarae rôl allweddol wrth gefnogi ein cymuned maethu.
Rydyn ni'n gwerthfawrogi creadigrwydd, agosrwydd a meddylfryd blaengar. Ymunwch â ni i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau plant a phobl ifainc, a chwarae rôl allweddol wrth gefnogi ein cymuned maethu.
Cyfrifoldebau Allweddol:
Amdanoch Chi:
Buddion:
Os ydych chi'n angerddol am wneud gwahaniaeth ac yn chwilio am rôl sy'n cynnig her a boddhad, bydden ni wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
Ffoniwch Gemma Higgon-Young ar 07384456966 i gael rhagor o wybodaeth a sgwrs anffurfiol.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd i bob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas â'r Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun cyfweliad gwarantedig ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, fe'ch gwahoddir i gyfweliad os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i'r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o'r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn sy'n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.