Gweithiwr Gofal Cymdeithasol – 28 awr yr wythnosGwasanaeth Cymorth yn y Cartref – Gofal Ychwanegol Sifftiau dydd (07.00 - 14.20 a 14:20 – 21:40)Yng Nghwrt Yr Orsaf, Graig, Pontypridd Gradd 5 - £26,824 y flwyddyn (£20,300 am 28 awr) ynghyd â gwelliannau am weithio penwythnosau, oriau anghymdeithasol a gwyliau banc.
2 Swydd x 28 awr
Ydych chi'n chwilio am her? Ydych chi'n mwynhau rhoi cymorth i bobl? Rydyn ni am benodi unigolion brwdfrydig a hunan-ysgogol i ymuno â'n carfan o Weithwyr Gofal Cymdeithasol i roi cymorth i unigolion yn ein cyfleuster Gofal Ychwanegol newydd ym Mhontypridd (Cwrt Yr Orsaf).
Byddai profiad o fod yn gefn i bobl o fewn cyd-destun gofal cymdeithasol yn ddymunol ond ddim yn hanfodol, gan y bydd disgwyl i'r ymgeiswyr llwyddiannus ddod â'u sgiliau a'u profiadau nhw'u hunain i'r rôl. Byddwch chi'n dilyn rhaglen ymsefydlu ac yn ymgymryd â hyfforddiant parhaus, ynghyd â bod yn destun goruchwyliaeth barhaus er mwyn gweithio mewn modd effeithiol. Bydd angen eich bod chi'n meddu ar y cymwysterau perthnasol neu'n dangos ymrwymiad i weithio tuag atyn nhw.
Mae gwasanaethau ar gael 365 diwrnod y flwyddyn, felly bydd gofyn i chi weithio ystod o sifftiau ar sail rota, gan gynnwys ond heb ei gyfyngu i; diwrnodau, nosweithiau, penwythnosau a gwyliau banc.
Am sgwrs anffurfiol neu i gael rhagor o wybodaeth am y swydd cyn i chi wneud cais, cysylltwch â Sarah Witchell (Rheolwr Cofrestredig) neu Julie James (Dirprwy Reolwr) ar 01443 309262.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio’n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad ydy unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses recriwtio a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddynt hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas â'r Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun cyfweliad gwarantedig ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, bydd gwahoddiad i gyfweliad i chi os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro hwn. Diolch am eich diddordeb, ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau gan bob adran o'r gymuned.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn, sy’n cwrdd â’r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.