Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o gynnig swydd Rheolwr Carfan – Arfer a Chyflawniad yn y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol.
Lleoliad: Tŷ Elái, Trewiliam, CF40 1NY
Mae cyfle ar gael i benodi Rheolwr Carfan – Arfer a Chyflawniad yng Ngharfan Gwaith Cymdeithasol Anableddau Dysgu'r Dwyrain. Mae'r garfan yn gweithio gydag oedolion ag anableddau dysgu yn nwyrain y fwrdeistref. Mae'r garfan yn gweithio o bell gydag un diwrnod bob wythnos yn swyddfa ganolog Rhondda Cynon Taf yn Nhŷ Elai, Trewiliam, Cwm Rhondda. Mae'r garfan yn cynnwys Blaen Weithwyr Cymdeithasol, Gweithwyr Cymdeithasol ac Ymarferwyr Gofal a Chymorth. Bydd y gweithiwr yn ymuno â charfan brofiadol a chefnogol. Rydyn ni eisiau penodi rheolwr brwdfrydig sy'n llawn cymhelliant i reoli'r garfan gwaith cymdeithasol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n agos â phartneriaid iechyd ac eraill mewn Gwasanaeth o ansawdd uchel i'r rheiny sydd ag Anableddau Dysgu yn RhCT, a deall cryfderau a heriau gweithio amlddisgyblaethol. Bydd hefyd yn gallu darparu gwasanaeth effeithiol ac effeithlon i'r cyhoedd.
Mae ymrwymiad cryf i ddysgu arferion ac addysg yn gyffredinol yn rhan o'r Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion, a bydd disgwyl i ddeiliad y swydd gyfrannu at hyn.
Bydd raid meddu ar gymhwyster perthnasol ym maes Gwaith Cymdeithasol ac mae disgwyl eich bod chi wedi'ch cofrestru'n Weithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru adeg eich penodi.
Mae gyda phob un o'n hymarferwyr gyfle i ddylanwadu ar ein gwaith wrth iddyn nhw ddatblygu. Maen nhw'n cael cymorth gan garfan uwch reoli gadarn a phrofiadol ar lefelau strategol a gweithredol.
Rydyn ni’n cydnabod bod maes gwaith cymdeithasol yn un heriol yn broffesiynol ac yn bersonol a'i fod yn gofyn am sgiliau, ymrwymiad a brwdfrydedd sylweddol. Mae gyda ni ganolfan Addysg a Datblygu fewnol, bwrpasol sy'n rhoi cymorth ymarferol ar bob lefel i ymarferwyr gynnal eu sgiliau a'u Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
Ar hyd y blynyddoedd diwethaf, mae ein Hadrannau Gofal Cymdeithasol wedi elwa yn sgil buddsoddiad cynhwysfawr a sylweddol. Yn sgil hyn, rydyn ni wedi cryfhau'n gwasanaethau ataliol gyda'r nod o leihau'r pwysau ar wasanaethau rheng flaen.
O'ch penodi, byddwch chi'n elwa ar lwybr gyrfa gwell ar gyfer gweithwyr proffesiynol yn y maes Gwaith Cymdeithasol, a phecyn buddion sy'n cynnwys gweithio hyblyg, pris gostyngol ar gyfer aelodaeth Hamdden am Oes a chyfle i fanteisio ar y cynlluniau prynu sef 'Beicio i'r Gwaith' a 'Let's Connect'.
Rydyn ni'n disgwyl i'n swyddogion feddu ar ddealltwriaeth gadarn o oblygiadau gweithredol Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a deddfwriaeth berthnasol arall. Rhaid ichi fod yn effro i'r wybodaeth ddiweddaraf am faterion newydd a rhaid ichi fod wedi gweithio yn y maes perthnasol, neu feddu ar ddiddordeb mewn gwneud hynny. Byddwch chi wedi'ch ymroi i ymarfer nad yw'n ormesol, a bydd gyda chi sgiliau asesu, cyfathrebu a chynllunio cadarn.
I gael rhagor o wybodaeth am y swydd, e-bostiwch Emma Furr (Rheolwr Gwasanaeth – Anableddau Dysgu) Emma.L.Furr@rctcbc.gov.uk
Buddion gweithio i Gyngor Rhondda Cynon Taf:
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas â'r Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun cyfweliad gwarantedig ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, fe'ch gwahoddir i gyfweliad os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn, sy’n cwrdd â’r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.