Gweithiwr Cymdeithasol / Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol - Cefnogi Plant sy'n Derbyn Gofal
Y Garfan Plant sy'n Derbyn Gofal (PDG)
Gradd 11 £41,511 y flwyddyn Lefel mynediad hyd at 3 blynedd o brofiad sydd wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Gradd 12 £44,711 y flwyddyn Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol ~ o leiaf 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwysol sydd wedi cofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o gynnig swydd Gweithiwr Cymdeithasol a fydd yn gweithio yn rhan o'n Carfan Plant sy'n Derbyn Gofal sydd newydd ei hailgyflunio.
Ymunwch â ni wrth i ni ddechrau ar gyfnod cyffrous o drawsnewid gwasanaeth.
Am y Swydd
Rydyn ni'n chwilio am weithiwr cymdeithasol brwdfrydig, ymroddedig sydd â’r angerdd a’r awydd i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau plant ac sy'n gallu helpu i gymell y rhwydweithiau o amgylch ein pobl ifainc i gyflawni safonau
rhagorol o ofal a chymorth.
Fydd deiliad y swydd yma ddim yn gyfrifol am achosion penodol, ond bydd yn cynnig arweiniad ymarferol ac emosiynol i bobl ifainc, rhieni a chynhalwyr. Bydd y gweithiwr cymdeithasol, sy'n gweithio yn y garfan, yn uniongyrchol gyfrifol i'r gweithiwr cymdeithasol ymgynghorol a bydd disgwyl ymgymryd ag ymyriadau a ystyrir yn fwy cymhleth, gyda chymorth y Blaen Weithwyr Cymdeithasol.
Rôl y gweithiwr cymdeithasol fydd cefnogi plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal, gan ddarparu ymyriadau wedi'u teilwra i helpu i gefnogi newid a chynnal perthnasoedd iach. Byddan nhw hefyd yn gweithio gyda phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal a'r rheiny sy'n rhoi'r gofal iddyn nhw, gan gefnogi
sefydlogrwydd lleoliadau ac atal trefniadau lleoli rhag chwalu.
Bydd y rôl yn cynnwys gweithio'n uniongyrchol gyda theuluoedd geni a phlant sydd wedi bod mewn gofal, er mwyn cefnogi’r bobl ifainc yma gyda’r broses o adael gofal a symud gartref.
Manteision:
Wrth weithio i Wasanaethau i Blant Rhondda Cynon Taf, bydd gyda chi fynediad at ystod eang o fuddion staff, yn ogystal ag ystod eang o gyfleoedd i ddysgu a datblygu. Rydyn ni'n blaenoriaethu lles ein hymarferwyr, gan ddarparu cymorth, llwythi gwaith hylaw, ac adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw er mwyn ffynnu.
Ar hyn o bryd, rydyn ni'n cyflwyno Model Ymarfer newydd ledled y gwasanaeth, sy'n canolbwyntio ar berthnasoedd, yn gydweithredol ac yn Ystyriol o Drawma. Mae hyn yn golygu y byddwch chi'n cael mynediad at becyn hyfforddi cynhwysfawr sy'n seiliedig ar dystiolaeth, sy'n cynnwys hyfforddiant Cyfathrebu Cydweithredol - gan gefnogi staff i weithio mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar ddeilliannau, gan annog sgyrsiau myfyriol a grymusol gyda phobl ifainc a'u teuluoedd. Yn ogystal â rhaglen hyfforddi bwrpasol sy'n ystyriol o drawma.
Mae buddion eraill yn cynnwys:
Dyma rai o’r buddion sydd gyda ni i’w cynnig. Edrychwch ar ein tudalennau gwe pwrpasol ar gyfer Gwasanaethau i Blant am ragor o wybodaeth ynghylch pam y dylech chi ddewis gyrfa ym maes Gwaith Cymdeithasol yn Rhondda Cynon Taf.
www.rctcbc.gov.uk/swyddigwasanaethauiblant
I gael rhagor o wybodaeth am y swydd yma neu i drefnu sgwrs anffurfiol gyda'r Rheolwr, cysylltwch â:
Nicola Bowditch, Rheolwr y Gwasanaeth
E-bost- Nicola.Bowditch@rctcbc.gov.uk
Myfyrwyr Gwaith Cymdeithasol Blwyddyn Olaf
Mae gan RCT hanes llwyddiannus a phrofedig o gefnogi nifer fawr o fyfyrwyr ar bob lefel. Mae myfyrwyr blwyddyn olaf sy'n llwyddiannus mewn cyfweliad yn cael cynnig y cyfle i gael eu cyflogi yn Rheolwyr Materion Asesu Gofal dros dro o'r cyfle cyntaf hyd nes bod eu cofrestriad wedi'i gwblhau. Yn ogystal â hynny, rydyn ni'n deall bod modd i'r cyfnod trosglwyddo o astudiaethau i gyflogaeth fod yn brysur, ac felly mae modd i'r oriau cyn dechrau swydd yn weithiwr cymwysedig fod yn
hyblyg i weddu i anghenion yr unigolyn. Rhowch gynnig arni!
Gwybodaeth Ychwanegol
Os byddwch chi'n cyrraedd y rhestr fer ar gyfer cyfweliad, bydd raid ichi gadarnhau a ydych chi'n gwneud cais am swydd Gweithiwr Cymdeithasol (GR11) neu Weithiwr Cymdeithasol Profiadol (GR12) cyn y cyfweliad. Bydd disgwyl i'r rheiny sy'n ymgeisio am swydd Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol fod yn barod i ddarparu tystiolaeth eu bod nhw wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru a 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwyso ym maes gwaith cymdeithasol yn eu cyfweliad.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio’n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas â'r Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun cyfweliad gwarantedig ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch,, bydd gwahoddiad i gyfweliad i chi os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn, sy’n cwrdd â’r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.