Carfan Cymorth Prif Ffrwd – Maethu Cymru
Tŷ Catrin, Ystad Ddiwydiannol Hen Lofa'r Maritime, Pontypridd, CF37 1NY
Ymunwch â Chyngor Rhondda Cynon Taf a llywio dyfodol y Gwasanaethau i Blant.
Ydych chi'n arweinydd profiadol ym maes maethu neu faes gofal cymdeithasol cysylltiedig, yn chwilio am her newydd lle mae modd i chi wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant?
Mae Maethu Cymru RhCT yn chwilio am Reolwr Carfan – Arfer a Chyflawniad i ymuno â Charfan Cymorth Prif Ffrwd Maethu Cymru.
Wrth gamu i'r rôl ddylanwadol yma, byddwch chi'n arwain carfan angerddol o weithwyr cymdeithasol, rheolwyr materion asesu gofal, a gweithwyr cymdeithasol, pob un wedi'u huno gan ymrwymiad i ddarparu gofal eithriadol i blant sy'n byw gyda'n rhieni maeth prif ffrwd. Eich arweinyddiaeth chi fydd y grym y tu ôl i wasanaeth sydd nid yn unig yn gefnogol, ond yn arloesol ac yn gydnaws ag anghenion unigryw pob plentyn.
Yn y swydd ganolog yma, byddwch chi'n goruchwylio datblygiad, rhieni maeth a’r cymorth a’r goruchwyliaeth sy’n cael eu darparu iddyn nhw, gan gydweithio'n agos â charfanau Maethu Cymru RhCT, cydweithwyr yn y Gwasanaethau i Blant, ac asiantaethau partner. A chithau'n rhan hanfodol o garfan arweinyddiaeth Maethu Cymru RhCT, byddwch chi'n hyrwyddo gwelliannau, yn datblygu systemau sicrhau ansawdd, ac yn gweithio'n rhanbarthol ochr yn ochr ag awdurdodau lleol eraill i hyrwyddo'r safonau gofal uchaf.
Yr hyn rydyn ni'n chwilio amdano
Pam ymuno â ni?
Rydyn ni'n cydnabod yr heriau a’r boddhad sy’n gysylltiedig â gweithio ym maes gofal cymdeithasol. Dyna pam rydyn ni'n cynnig strwythur rheoli cefnogol, buddsoddiad parhaus yn ein gwasanaethau, a Chanolfan Dysgu a Datblygu gynhwysfawr sy’n rhoi cyfle i chi feithrin eich sgiliau a'ch twf proffesiynol.
Mae ein hymrwymiad i staff yn cynnwys:
Byddwch chi'n elwa o lwybr dilyniant gyrfa clir a mynediad at ein cynllun buddion staff gwych, gan sicrhau eich bod chi'n teimlo eich bod chi’n cael eich gwerthfawrogi bob cam o'r ffordd.
Ymrwymiad Diogelu
Mae amddiffyn plant ac oedolion agored i niwed wrth wraidd popeth a wnawn. Mae'n ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn rhan o'n cyfrifoldebau diogelu.
Oes gyda chi ddiddordeb?
Os ydych chi'n angerddol am gael effaith gadarnhaol ac eisiau helpu i lywio dyfodol gwasanaethau maethu yn Rhondda Cynon Taf, bydden ni wrth ein bodd yn clywed gennych chi. Am ragor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol am y rôl, ffoniwch Gemma Higgon-Young, Rheolwr Gwasanaeth, ar 07384 456966 neu e-bostio Gemma.L.Higgon-Young@rctcbc.gov.uk.
Buddion gweithio i Gyngor Rhondda Cynon Taf:
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio’n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas â'r Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun cyfweliad gwarantedig ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, fe'ch gwahoddir i gyfweliad os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.