Carfan Anableddau Dysgu – Y Gorllewin
Gradd 11 – Gradd Gychwynnol ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol a Chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru
Gradd 12 – Gradd Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol ~ o leiaf 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwysol a chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru
Mae'n dda gan Gyngor Rhondda Cynon Taf hysbysebu swydd Gwaith Cymdeithasol yn rhan o'i Wasanaethau Gofal Cymdeithasol yn y Garfan Anableddau Dysgu - Y Gorllewin.
Ar gyfer y swydd amser llawn yma, rydym ni am benodi Gweithiwr Cymdeithasol llawn cymhelliant a brwdfrydig i ymuno â Charfan Anableddau Dysgu - y Gorllewin Rhondda Cynon Taf, yn ei swyddfa yn Nhŷ Elái, Trewiliam.
Mae'r Garfan yn darparu cymorth i oedolion ag anabledd dysgu cydnabyddedig sy'n byw yng Ngorllewin Rhondda Cynon Taf. Mae'r garfan yn dilyn model ataliol sy'n seiliedig ar gryfderau ac sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, o dan egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014. Mae gan y Garfan bwyslais ar waith aml-asiantaeth a bydd disgwyl i chi weithio'n agos gyda chydweithwyr o'r maes Iechyd a nifer o asiantaethau eraill. Rydyn ni hefyd yn gweithio o fewn egwyddorion Deddf Galluedd Meddyliol 2005, gan ymarfer yn aml o fewn cylch gorchwyl Budd Gorau ar gyfer unigolion nad oes ganddyn nhw'r galluedd meddyliol i wneud penderfyniadau drostyn nhw eu hunain. Gall hyn gynnwys gwneud ceisiadau i’r Llys Gwarchod.
Byddai'n fanteisiol i ymgeiswyr feddu ar yr wybodaeth ddiweddaraf am faterion sy'n dod i'r amlwg ynghyd â phrofiad o weithio yn y maes hwn, neu ddiddordeb mewn gweithio ynddo. O'ch penodi, byddwch chi'n dod â sgiliau asesu, cyfathrebu a chynllunio da i sicrhau canlyniadau cadarnhaol i'r unigolion rydym ni'n gweithio gyda nhw. Yn ogystal â dangos dealltwriaeth o reoli risg a diogelu, mae amddiffyn plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd yr holl staff a benodir gan y Cyngor.
Mae aelodau'r garfan yn gweithio'n hyblyg ac o'r swyddfa yn Nhŷ Elái, Trewiliam, Rhondda.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael goruchwyliaeth reolaidd un-wrth-un yn ogystal â goruchwyliaeth gan gyfoedion. Mae gyda phob un o'n hymarferwyr gyfle i ddylanwadu ar ein gwaith wrth iddyn nhw ddatblygu. Maen nhw'n cael cymorth carfan rheoli gadarn a phrofiadol ar lefelau strategol a gweithredol.
Rydyn ni'n cydnabod bod maes gwaith cymdeithasol yn un heriol, yn broffesiynol ac yn bersonol, a'i fod yn gofyn am sgiliau, ymrwymiad a brwdfrydedd sylweddol. Mae gyda ni ganolfan Addysg a Datblygu fewnol, bwrpasol sy'n rhoi cymorth ymarferol ar bob lefel i ymarferwyr gynnal eu sgiliau a'u Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
Ar hyd y blynyddoedd diwethaf, mae ein Hadrannau Gofal Cymdeithasol wedi elwa yn sgil buddsoddiad cynhwysfawr a sylweddol. Yn sgil hyn, rydyn ni wedi cryfhau'n gwasanaethau ataliol gan anelu at leihau'r pwysau ar y rheng flaen.
O'ch penodi, byddwch chi'n elwa ar lwybr gyrfa gwell ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes Gwaith Cymdeithasol, a phecyn buddion, sy'n cynnwys gweithio hyblyg, pris gostyngol ar gyfer aelodaeth Hamdden am Oes a chyfle i fanteisio ar y cynlluniau prynu sef 'Beicio i'r Gwaith' a 'Let's Connect'.
I'r sawl sy'n dechrau eu gyrfa ym maes Gwaith Cymdeithasol, byddwch chi'n cael cefnogaeth i ddilyn ein rhaglen gymorth i gyfoedion yn eich blwyddyn gyntaf fel ymarferydd. Nod y rhaglen yma yw lleihau'r bwlch rhwng ennill cymhwyster a rhoi hynny ar waith yn ymarferol.
Bydd raid meddu ar gymhwyster perthnasol ym maes Gwaith Cymdeithasol ac mae disgwyl eich bod wedi'ch cofrestru'n Weithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru adeg eich penodi.
Os byddwch chi'n cyrraedd y rhestr fer ar gyfer cyfweliad, bydd rhaid ichi gadarnhau a ydych chi'n gwneud cais am swydd Gweithiwr Cymdeithasol (GR11) neu Weithiwr Cymdeithasol Profiadol (GR12) cyn y cyfweliad. Bydd disgwyl i'r rheiny sy'n ymgeisio am swydd Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol fod yn barod i ddarparu tystiolaeth o'u cofrestriad â Gofal Cymdeithasol Cymru a 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwyso yn eu cyfweliad.
Am ragor o wybodaeth neu am sgwrs anffurfiol, cysylltwch ag Elen Fletcher (Rheolwr y Garfan) drwy ebostio [email protected] neu drwy ffonio (01443) 570010.
Buddion gweithio i Gyngor Rhondda Cynon Taf:
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o’i amcanion tymor hir mewn perthynas â’r Gymraeg a’i Strategaeth Cynllunio’r Gweithlu, mae’r Cyngor yn ymrwymo i gynllun sicrhau cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd sgiliau Cymraeg Lefel 3 neu’n uwch na hynny. Os byddwch chi’n bodloni’r meini prawf hanfodol fel sydd wedi’u nodi yn y fanyleb person a bod eich sgiliau Cymraeg gyfwerth â Lefel 3 neu’n uwch, byddwch chi’n cael gwahoddiad i gyfweliad os ydych chi’n dymuno bod yn y cynllun
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro hwn. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.